Ar ôl y cyfnod clo diweddaraf, bydd y Ganolfan yn ailagor o 12 Ebrill ymlaen. Ewch i’n tudalen Blog i gael gweld yr amseroedd agor cyfredol. Byddwn yn cydymffurfio â’r holl gyfarwyddiadau diogelwch Covid cyfredol ar gyfer y coleg ac â chyfyngiadau Llywodraeth Cymru.
Cyhoeddwyd rhaglen y gweithdy haf, sef cyfres o chwe gweithdy deuddydd i’w cynnal gan hwylusydd y ganolfan neu artistiaid gwadd. Mae’r lleoedd yn llenwi’n gyflym. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen cyrsiau a’r Blog.
Cynhaliodd y Ganolfan Argraffu Ranbarthol, Symposiwm Argraffu llwyddiannus unwaith eto yn gynharach eleni. Am y tro cyntaf, roedd yn ddigwyddiad ar-lein, gyda phedwar artist o’r Alban, Iwerddon, Cymru a Lloegr yn cymryd rhan ynddo. Teitl y Symposiwm oedd Y Naratif mewn Gwneud Printiau. Mae’r Symposiwm dal ar gael i chi ei weld ar ein sianel YouTube.
Lansiwyd sianel YouTube y Ganolfan yn 2020. Dyma fenter newydd sy’n cynnwys sesiynau tiwtorial, digwyddiadau, prosiectau ac artistiaid proffesiynol. Mae’r sianel yn ei dyddiau cynnar ond mae’n parhau i gynyddu ac ehangu.