Hanes
Mae’r Ganolfan Argraffu Ranbarthol (CAR) yn brosiect ar y cyd sy’n cael ei ariannu gan Goleg Cambria a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Mae’r (CAR) wedi bod yn ganolfan flaenllaw ers 20 mlynedd ar gyfer datblygu gwneud printiau creadigol. Sefydlwyd y Ganolfan yn Adeilad Celf Goffa, Coleg Cambria Iâl, Wrecsam, gan 2 wneuthurwraig printiau angerddol, Luci Melegari ac Anna Adair.
Gwelodd y ddwy ohonynt y potensial i ddefnyddio stiwdio brint y coleg fel canolbwynt creadigol i ddarparu cyfleuster mynediad agored ar gyfer gwneuthurwyr printiau yn y rhanbarth, a oedd ac a fyddai’n ymroddedig i hyfforddi, hyrwyddo a chynorthwyo gyda gwneud printiau a’i nifer o ffurfiau gwahanol. Mae Luci yn parhau i fod yn gysylltiedig â’r ganolfan ond yn anffodus bu farw Anna, gan adael y CAR fel etifeddiaeth i’w hymdrechion.
Nod
Mae’r CAR yn parhau i ddarparu cyfleoedd i’n haelodau. Ein nod yw addysgu, annog a meithrin pobl greadigol newydd a helpu artistiaid sefydledig i ddatblygu eu dull gwneud printiau. Gyda threigl y blynyddoedd bu newid yn staff y ganolfan ond mae brwdfrydedd yr aelodaeth a’r ethos yn parhau.
Beth rydyn ni’n ei wneud
Mae’r CAR yn cynnig cyfleusterau mynediad agored i wneud printiau, gweithdai, cyrsiau a digwyddiadau i’r rheini sy’n newydd i wneud printiau, yn ogystal â datblygiad proffesiynol ar gyfer gwneuthurwyr printiau ac artistiaid mwy profiadol. Mae’r ganolfan hefyd yn cydlynu dosbarthiadau arbenigol, darlithoedd ac arddangosiadau ar gyfer grwpiau celf, ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol.