Bydd angen i chi fod yn aelod o’r Ganolfan i ddefnyddio’r stiwdio yn ystod y sesiynau Mynediad Agored.
Rydym yn hynod o falch i gael croesawu aelodau newydd i’r Ganolfan. I ymuno â’r stiwdio, rydym yn gofyn i chi fod yn gallu defnyddio o leiaf un neu ddau o ddulliau gwneud printiau sylfaenol, fel eich bod chi’n gallu defnyddio’r cyfleusterau’n ddiogel ac ar eich pen eich hun. Rydym yn cynnig cymorth technegol a goruchwyliaeth stiwdio yn ein holl sesiynau Mynediad Agored.
Os ydych chi’n newydd i wneud printiau neu os hoffech chi loywi’ch sgiliau, gallwch chi ymuno ag un o’n gweithdai Cyflwyniad / Gloywi Gwneud Printiau.
Yn 2021/22, byddwn yn cynnig dau fath o aelodaeth.
Aelodaeth Safonol Flynyddol
1 Ebrill 2021 hyd 31 Mawrth 2022
- Cewch ddefnyddio’r gofod stiwdio a’r cyfleusterau gwneud printiau yn ystod sesiynau mynediad agored, gan dalu wrth eu defnyddio (£8.00 hyd at 4 awr / £12.00 am ddiwrnod llawn)
- Cymorth technegol ac ymarferol ar gael yn ystod sesiynau mynediad agored
- Gostyngiadau ar gyfer gweithdai i aelodau’n unig
- Negeseuon e-bost gyda’r newyddion diweddaraf yn rheolaidd.
- £ 45.00
Aelodaeth Gynhwysol Flynyddol
1 Ebrill 2021 hyd 31 Mawrth 2022
- Cewch ddefnyddio’r gofod stiwdio a’r cyfleusterau gwneud printiau yn ystod pob sesiwn mynediad agored (120+ sesiwn)
- Cymorth technegol ac ymarferol ar gael yn ystod sesiynau mynediad agored
- Gostyngiad i aelodau’n unig ar gyfer gweithdai
- Negeseuon e-bost gyda’r newyddion diweddaraf yn rheolaidd
- £145.00
I ymaelodi, lawrlwythwch, llenwch ac anfonwch y ffurflen aelodaeth yn ôl atom.
Byddwn yn defnyddio’r ffioedd i gyd i gynnal y Ganolfan